Pleidlais ar-lein ragarweiniol staff cymorth yn agor dydd Sadwrn 16 Mawrth 2024
Ar gyfer y codiad cyflog a’i gweithredir ym mis Ebrill eleni, mae’r tri undeb llywodraeth leol gydnabyddedig (Unsain, GMB ac Unite) bellach wedi cyflwyno hawliad cyflog uwchlaw chwyddiant, sef cynnydd o £3,000 neu 10%, pa un bynnag sydd fwyaf. Mae’r NEU yn cefnogi’r hawliad hwn yn llwyr, a fyddai’n gam sylweddol tuag at atgyweirio’r toriadau cyflog mewn termau real a osodwyd ers 2010.
Mae'r cyflogwr, Cymdeithas Llywodraeth Leol (LGA), wedi dweud y byddent yn ymgynghori â chyflogwyr lleol yn ystod mis Mawrth, cyn ymateb i hawliad yr undebau.
Mae’r NEU wedi ysgrifennu at yr undebau cydnabyddedig i fynegi ein dymuniad cryf i weithio ochr yn ochr â nhw, mewn blwyddyn Etholiad Cyffredinol, i gynnal pleidlais o’n haelodau i fynd i’r afael â chyllido cyflogau, swyddi, ac amodau Gwaith
Nawr bod yr undebau cydnabyddedig wedi cadarnhau eu hawliad cyflog uwchlaw chwyddiant – sef cynnydd o £3,000 neu 10%, pa un bynnag sydd fwyaf - byddwn nawr yn ymgynghori â'n haelodau staff cymorth ynghylch eu parodrwydd i streicio ochr yn ochr â'r undebau cydnabyddedig i gefnogi'r hawliad.
Bydd y bleidlais electronig ragarweiniol hon ar gyfer staff cymorth mewn ysgolion a ariennir gan y wladwriaeth ledled Cymru a Lloegr yn agor ddydd Sadwrn, 16 Mawrth.
Yn ogystal ag ymgyrchu dros gyflogau, bydd yr NEU hefyd yn ymgyrchu i fynd i’r afael â phroblemau eraill sy’n wynebu staff cymorth, yn enwedig dros gynyddu cyllid a diogelu swyddi. Rydych yn dweud wrthym yn rheolaidd bod disgwyl i staff cymorth fynd y tu hwnt i’w cyfrifoldebau cytundebol er mwyn cynnal gwaith ysgolion. Gwyddom fod cynnydd mewn dyletswyddau ychwanegol a ‘drifft gradd’ yn broblemau penodol. Rydym hefyd yn ymwybodol bod y baich gwaith a’i cysylltir â’r diwygiadau ADY yn cynyddu’r pwysau ar nifer o staff cymorth yn syfrdanol.
Mae’r holl ffactorau hyn wedi creu sefyllfa, am y tro cyntaf erioed, ble mae argyfwng difrifol o ran cadw staff cymorth ym myd addysg. Mae nifer ohonoch wedi dweud wrthym am gydweithwyr sydd wedi gadael am swyddi eraill, yn y sectorau manwerthu neu arlwyo, ble mae’r tal yn well a’r amodau gwaith a disgwyliadau yn fwy goddefol – trawsnewidiad llwyr i’r sefyllfa degawd neu fwy yn ôl.
Felly, wrth i ni ymgynghori a chi ynglŷn â chefnogi hawliad tal yr undebau cydnabyddedig, byddwn hefyd yn holi am eich parodrwydd i streicio ynghyd a’ch cydweithwyr sy’n athrawon, i sicrhau cyllid ychwanegol i ysgolion, er mwyn cyllido cynyddiadau tal yn llawn, diogelu amodau gwaith a chynyddu niferoedd staff.
Gofynnir cwestiwn ychwanegol i staff cymorth yng Nghymru am eu parodrwydd i streicio os bydd Llywodraeth Cymru yn gorfodi diwygio’r flwyddyn ysgol drwy leihau gwyliau’r haf i bedair wythnos.
Ni allwn fforddio wneud dim.
Ddydd Sadwrn, 16 Mawrth, byddwn yn anfon dolen bleidleisio i bob aelod cymwys drwy e-bost neu neges destun – pleidleisiwch cyn gynted ag y byddwch yn derbyn y ddolen bleidleisio.
Er mwyn i gamau gweithredu fynd rhagddynt, mewn pleidlais ffurfiol ddilynol, y mae’n rhaid ei chynnal drwy’r post, rhaid i fwyafrif bleidleisio ‘O Blaid’ ac mae’n rhaid i o leiaf 50 y cant o’r rhai sy’n gymwys i bleidleisio gwneud hynny. Er mwyn i adran weithredol yr NEU awdurdodi pleidlais ffurfiol, rhaid i’r bleidlais electronig ragarweiniol hon ddangos bod pleidlais o’r fath yn debygol o basio’r trothwyon cyfreithiol hyn.
Byddwn yn defnyddio’r canlyniadau i ddangos i Lywodraethau Cymru a’r DU, cyflogwyr yr NJC a’r undebau cydnabyddedig, cryfder y teimlad ymysg staff cymorth a’n pendantrwydd i beidio â derbyn niwed pellach i dal, amodau, a staffio.
Gobeithiwn, cyn Etholiad Cyffredinol, y bydd Llywodraeth y DU yn newid ei hagwedd ac yn dechrau mynd i’r afael a’r argyfwng ariannol sydd mor niweidiol i addysg ein plant. Fe fyddai hynny hefyd yn galluogi i gyflogwyr yr NJC i gytuno i hawliad yr undebau cydnabyddedig am gynnydd cyflog uwchlaw chwyddiant. Ond, os na fydd newid, mae angen inni fod yn barod i wneud popeth o fewn ein gallu i amddiffyn addysg a brwydro dros degwch.
Yn yr un modd yng Nghymru, os bydd Llywodraeth Cymru yn bwrw ymlaen â chynigion i ddiwygio’r flwyddyn ysgol drwy dorri gwyliau’r haf i bedair wythnos.
Gyda’n gilydd, mae angen inni wneud safiad.
Ers yr etholiad diwethaf, mae eich ffydd a’ch ymroddiad – gan gynnwys sefyll ysgwydd wrth ysgwydd gyda’ch cyd-athrawon ar sawl llinell biced y llynedd – wedi ein helpu i ennill mwy o gyllid i ysgolion.
Ond, yn 2024, rydym angen ichi sefyll yn gadarn unwaith eto. Ynghyd a Unison, GMB ac Unite, fe allwn ennill codiad cyflog i staff cymorth. Fe allwn ennill mwy o gyllid i’n hysgolion, trwy gydsefyll gydag athrawon, er mwyn diogelu amodau gwaith staff cymorth a chynyddu lefelau staffio.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach am y bleidlais i staff cymorth darllenwch y Cwestiynau Cyffredin ar y dudalen hon. Gallwch hefyd lawrlwytho copi o lythyr yr ydym yn ei bostio at bob aelod o staff cymorth cymwys cyn i’r bleidlais ragarweiniol agor ddydd Sadwrn 16 Mawrth.