Annwyl gydweithiwr

Mae'r Undeb Addysg Genedlaethol (NEU) yn dod allan o'r pandemig gyda miloedd o aelodau newydd, cynrychiolwyr gweithle a lefelau ymgysylltu nas gwelwyd ers cenhedlaeth.

Mae'r undeb yn credu ei bod hi'n amser Gwerthfawrogi Addysg, Gwerthfawrogi Addysgwyr a gwneud hyn yn ffocws ym mhob gweithle wrth inni gynllunio am y blynyddoedd wedi Covid-19.

Rhaid bod gan staff lais a rhyddid proffesiynol yn eu gweithle. Trwy Werthfawrogi Addysg, Gwerthfawrogi Addysgwyr, byddwn yn helpu ein haelodau i adennill yr hyder proffesiynol i lunio addysgu a dysgu, elwa o ymchwil ac ystyried yr hyn sydd ei angen ar eu myfyrwyr.

Tymor yr hydref hwn, byddwn yn cefnogi grwpiau undeb NEU i weithio gyda'i gilydd i gael gwared ar faich gwaith diangen sy'n gysylltiedig â’r atebolrwydd sy'n bodoli mewn addysg.

Gobeithiwn y bydd y ganolfan adnoddau ddigidol hon yn eich helpu chi ac aelodau NEU eraill yn eich gweithle.

Ymhlith yr adnoddau mae:

  • Pecyn cymorth baich gwaith i alluogi aelodau NEU i nodi materion baich gwaith sy'n gysylltiedig ag atebolrwydd
  • Cyfarfod enghreifftiol ar PwerBwynt fydd yn eich helpu i drafod y materion hyn gydag aelodau eraill yn eich gweithle
  • Llythyrau enghreifftiol i godi materion baich gwaith rydych chi'n eu hadnabod ar y cyd gyda’ch tîm arweinyddol

Gan weithio ochr yn ochr ag aelodau NEU mae Gwerthfawrogi Addysg, Gwerthfawrogi Addysgwyr yn ceisio llunio system addysg er budd gorau ein cymunedau a'r disgyblion rydym yn eu haddysgu.

Ymunwch â ni. Gyda'n gilydd, gallwn lunio dyfodol addysg.

Canllaw baich gwaith ar gyfer eich gweithle
PwerBwynt cyfarfod undeb
Llythyrau enghreifftiol i godi materion baich gwaith
Llythyr gan Kevin a Mary
Adnoddau digidol
image