Pleidlais ar-lein ragarweiniol athrawon yn agor dydd Sadwrn 2 Mawrth 2024
Annwyl gydweithiwr
Y llynedd, yn eich cannoedd o filoedd, fe wnaethoch chi sefyll dros addysg.
Sicrhaodd ein hymgyrch Talwch! a’n streic gynnydd cyfunol o 5 y cant wedi’i ariannu yng nghyflogau athrawon a chyfandaliad anghyfunol o 1.5% ychwanegol a chonsesiynau allweddol ar faich gwaith. Roedd hyn ar ben dyfarniad o gynnydd cyfunol o 6.5% ar gyfer 2022.
Ond pan wnaethoch chi bleidleisio i dderbyn y cynnig hwnnw, dywedasom y gallai'r diwrnod ddod pan fyddem unwaith eto yn gofyn ichi gymryd camau i achub ein hysgolion.
Dydd Sadwrn 2 Mawrth 2024 – yw’r diwrnod hwnnw.
Heddiw rydym yn lansio ein pleidlais electronig ragarweiniol i athrawon i ofyn a fyddech yn barod i streicio i wneud yn siŵr bod addysgwyr yn cael codiad cyflog uwchlaw chwyddiant, wedi’i ariannu’n llawn a bod Llywodraeth Cymru a chyflogwyr yn ymrwymo cyllid pellach i wella lefelau staffio mewn ysgolion.
Bydd y bleidlais hefyd yn gofyn a fyddech yn barod i streicio pe bai Llywodraeth Cymru yn gosod diwygiadau i’r flwyddyn ysgol i dorri eich gwyliau haf i bedair wythnos.
Mae staff addysg yn dal i adael y proffesiwn yn llu. Ac nid oes digon yn dod i mewn i gymryd eu lle.
O ran ariannu ysgolion, nid yw'r newyddion yn ddim gwell. Nid oes unrhyw arian ychwanegol i drwsio cyflwr brawychus ein hysgolion, lle mae dŵr yn arllwys i mewn trwy nenfydau sy’n gollwng, lle mae llwydni a gwaith paent sy’n plicio yn nodweddion rheolaidd ar waliau ystafelloedd dosbarth.
Yn fyr, mae addysg angen i ni gamu fyny unwaith eto.
Yn dilyn ei Datganiad Cyllideb mis Rhagfyr a’r goblygiadau i Gorff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru (IWPRB), mae Llywodraeth Cymru yn amlwg yn paratoi ar gyfer dyfarniad cyflog athrawon islaw chwyddiant ar gyfer 2024. Mae’n debygol na fyddai dyfarniad diwerth hyd yn oed yn cael ei ariannu’n briodol yn y rhan fwyaf o ysgolion, sy’n rhoi darpariaeth addysg a swyddi gweithlu ysgolion mewn perygl.
Ni fydd hyn yn datrys y problemau recriwtio nac yn llenwi'r holl swyddi gwag sydd gan ein hysgolion.
Nid nawr yw’r amser ychwaith i newid strwythur y flwyddyn ysgol. Rydym yn bryderus iawn bod Llywodraeth Cymru yn cynnig torri gwyliau’r haf i bedair wythnos yn unig. Mae'r cynigion hyn yn tynnu sylw diangen oddi wrth y materion mwyaf sy'n effeithio ar ysgolion yng Nghymru ar hyn o bryd.
Y llynedd, bu i’ch gweithredu ar y cyd orfodi Llywodraeth Cymru i roi mwy o arian ar y bwrdd.
Gan mai ychydig mwy na chodiad cyflog prin sydd ar y gweill, mae’r undeb yn barod i lansio pleidlais ddangosol ddiwedd mis Chwefror – gan ofyn ichi gefnogi rownd arall o weithredu diwydianol i ddangos i Lywodraeth Cymru ein bod yn barod unwaith eto i sefyll i fyny i achub ein hysgolion.
Os bydd nifer sylweddol o aelodau yn pleidleisio, bydd penderfyniad yn cael ei wneud yn ein cynhadledd genedlaethol ym mis Ebrill i symud ymlaen i bleidlais ffurfiol.
Yn fuan iawn, byddwn hefyd yn cynnal pleidlais electronig ragarweiniol o aelodau staff cymorth ynghylch eu parodrwydd i gymryd camau gweithredu ar gyflogau, swyddi a diwygio’r flwyddyn ysgol. Bydd y bleidlais electronig ragarweiniol hon yn agor ddydd Sadwrn, 16 Mawrth. Gall staff cymorth ddarllen mwy am ein cynlluniau yma [LINK TO SUPPORT STAFF PAGE WELSH]
Yn 2024, rydym angen ichi sefyll yn gadarn eto, i fynnu cyflog teg, cyllid ysgol gweddus a brwydro dros y system addysg y mae ein disgyblion yn ei haeddu.