English language

Ochr yn ochr â’r dyfarniad cyflog ychwanegol o 1.5% a roddwyd ar gyfer 2022-23, taliad anghyfunol o 1.5% ar gyfer y flwyddyn honno a chodiad cyflog uwch i 5% ar gyfer 2023-24, mae eich streic a’ch ymgyrchu hefyd wedi galluogi NEU Cymru i sicrhau ymrwymiadau gan Lywodraeth Cymru i leihau baich gwaith ac effaith atebolrwydd yn yr ysgol.

Mae’n bryd gweithredu ar faich gwaith diangen sy’n cael ei lywio gan atebolrwydd yn yr ysgol

Mae’r ffocws ar atebolrwydd, heb y gefnogaeth angenrheidiol, yn achosi straen diangen a bydd yn arwain at athrawon da ac arweinwyr ysgolion yn gadael y proffesiwn. Mae angen y gweithwyr proffesiynol profiadol hyn arnom i gefnogi gweithrediad y cwricwlwm newydd ac i gefnogi plant Cymru gyda’i haddysg.

Nid oes amser gwell i weithredu i leihau baich gwaith yn eich gweithle.

Mae'r adnoddau hyn wedi'u cynllunio i gefnogi cynrychiolwyr a'u grwpiau undeb i ddeall a nodi beth sy'n achosi baich gwaith ychwanegol yn eich ysgol neu goleg. Bydd yn eich helpu i weithio ar y cyd a, lle bo modd, ar y cyd ag undebau cydnabyddedig eraill i gymryd camau dros faich gwaith diangen sy’n cael ei ysgogi gan atebolrwydd yn yr ysgol.

Mae’n cynnwys canllawiau rhestr wirio ar rai o brif ysgogwyr atebolrwydd baich gwaith gormodol - data, cynllunio gwersi, marcio, cyflenwi, arsylwadau - gydag offeryn archwilio i chi nodi pa rai o’r materion hynny sydd fwyaf cyffredin yn eich gweithle. Gallwch hefyd lawr lwytho sleidiau enghreifftiol i'ch helpu i drafod y materion hyn gydag aelodau a llythyrau enghreifftiol i helpu'ch grŵp undeb i godi'r materion hynny gyda'ch tîm arweiniol, bargeinio am welliannau a dwysáu materion os oes angen.

Mae'n bryd gwerthfawrogi addysgwyr, amser i chi adennill eich bywydau proffesiynol.

Mae'r gweithgaredd cyfunol hwn i ddileu baich gwaith diangen sy'n gysylltiedig ag atebolrwydd yn rhan o'n cyfeiriadedd Gwerthfawrogi Addysg, Gwerthfawrogi Addysgwyr at fargeinio yn y gweithle. Mae’n cyd-fynd â’n ffocws ar galendr bargeinio ar weithredu dros gyflog, gweithio hyblyg, ac amser cyfeiriedig.

Ymunwch â ni. Gyda’n gilydd, gallwn lunio dyfodol addysg.

Daniel Kebede

Ysgrifennydd cyffredinol, Yr Undeb Addysg Cenedlaethol

Bargeinio i leihau baich gwaith

Rhestr Wirio Lleihau Baich Gwaith Atebolrwydd
Poster lleihau baich gwaith
PwerBwynt cyfarfod undeb
Llythyr enghreifftiol i godi materion baich gwaith
Llythyr Daniel Kebede at gyflogwyr
Adnoddau digidol
Cyngor pellach gan yr NEU ar leihau baich gwaith (Ar gael yn Saesneg yn unig)
Canolbwynt baich gwaith
Amser cyfeiriedig (Ar gael yn Saesneg yn unig)